Tibet Cynnwys Daearyddiaeth | Hanes | Israniadau hanesyddol | Diwylliant | Gweler hefyd | Llywioychwanegu ato
Egin TibetTibet
Gweriniaeth Pobl TsieinaRhanbarth Ymreolaethol TibetLhasaMynydd EverestNepalLlyn ManasarovarLlyn RakshastalAsiaDalai LamaDharamsalaIndiaÜ-TsangKhamQinghaiBwdhaeth TibetFwdhaethBönMwslimTibetegllenyddiaeth Dibeteg
Tibet
Jump to navigation
Jump to search
Mae Tibet yn enw cyffredin ar dalaith hunanlywodraethol yng ngorllewin Gweriniaeth Pobl Tsieina, a adwaenir yn swyddogol fel Rhanbarth Ymreolaethol Tibet, a hefyd ar y wlad hanesyddol o'r un enw, oedd â ffiniau gwahanol. Y brifddinas yw Lhasa. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y wlad hanesyddol.
Cynnwys
1 Daearyddiaeth
2 Hanes
3 Israniadau hanesyddol
4 Diwylliant
5 Gweler hefyd
Daearyddiaeth |
Mae'r ardal yn fynyddig, ac yn cynnwys mynydd uchaf y byd, Mynydd Everest, ar y ffin â Nepal. Ond mae'n wlad o lwyfandiroedd uchel anferth hefyd, lled-anial, gyda nifer mawr o lynnoedd sy'n cynnwys llynnoedd sanctaidd fel Llyn Manasarovar a Llyn Rakshastal.
Hanes |
Mae hanes hir Tibet yn adlewyrchu'r ffaith ei bod yn gorwedd yng nghanol Asia.
Yn 1959 meddiannwyd Tibet gan China, a sefydlodd y 14eg Dalai Lama lywodraeth mewn alltudiaeth yn Dharamsala yng ngogledd India.
Israniadau hanesyddol |
Rhennid teyrnas Tibet yn dair rhanbarth hanesyddol, sef:
Amdo (gogledd-ddwyrain)
Kham (de-ddwyrain)
Ü-Tsang (canolbarth a gorllewin)
O'r tair rhanbarth hyn dim ond Ü-Tsang a rhan o orllewin Kham sy'n cael eu cynnwys yn Rhanbarth Ymreolaethol Tibet. Mae Amdo wedi ei throi yn dalaith Qinghai.
Diwylliant |
Bwdhaeth Tibet neu Fwdhaeth Dibetaidd yw'r enw a arferir am y gangen o Fwdhaeth a ddatblygodd i fod yn grefydd mwyafrif llethol y Tibetiaid. Yn ogystal ceir rhai pobl sy'n dal i ddilyn y grefydd Bön, cyn-Fwdhaidd, a cheir poblogaethau Mwslim mewn rhannau o'r wlad hefyd, yn enwedig yn y gogledd.
Tibeteg yw prif iaith yr ardal. Tafodiaith Lhasa (Ü-Tsang) yw'r lingua franca draddodiadol ac iaith llenyddiaeth Dibeteg.
Gweler hefyd |
- Baner Tibet
- Bwdhaeth Tibet
- Dalai Lama
Gweinyddiaeth Ganolog Tibet - llywodraeth alltud Tibet
Rhanbarth Ymreolaethol Tibet - y rhanbarth fodern, yn Tsieina.
Eginyn erthygl sydd uchod am Dibet. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Categorïau:
- Egin Tibet
- Tibet
(window.RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgPageParseReport":"limitreport":"cputime":"0.016","walltime":"0.026","ppvisitednodes":"value":48,"limit":1000000,"ppgeneratednodes":"value":0,"limit":1500000,"postexpandincludesize":"value":461,"limit":2097152,"templateargumentsize":"value":0,"limit":2097152,"expansiondepth":"value":3,"limit":40,"expensivefunctioncount":"value":0,"limit":500,"unstrip-depth":"value":0,"limit":20,"unstrip-size":"value":0,"limit":5000000,"entityaccesscount":"value":0,"limit":400,"timingprofile":["100.00% 4.593 1 Nodyn:Eginyn_Tibet","100.00% 4.593 1 -total"],"cachereport":"origin":"mw1264","timestamp":"20190406035817","ttl":2592000,"transientcontent":false);mw.config.set("wgBackendResponseTime":105,"wgHostname":"mw1254"););